14 Hydref 2019

 

Annwyl Syr/Madam

Ymchwiliad i effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol - Ymgynghoriad

Ers mis Ebrill 2018, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am rai o’r trethi a delir yng Nghymru, gan gynnwys Cyfraddau Treth Incwm newydd Cymru a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2019. Yn sgil y pwerau trethu newydd hyn, mae'r Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymchwiliad i effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol. Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

§  Archwilio effeithiau amrywiadau treth incwm is-genedlaethol mewn systemau treth rhyngwladol ar ymddygiad enillwyr incwm isel, canolig ac uchel, yn enwedig ymfudo ac osgoi treth.

§  Deall sut y gall enillwyr incwm isel, canolig ac uchel ymateb i amrywiadau mewn cyfradd treth incwm ar gyfer pob band treth rhwng Cymru a Lloegr.

§  Deall lefel yr amrywiad mewn cyfraddau treth incwm a allai ysgogi newid ymddygiadol ymysg enillwyr isel, canolig ac uwch yng Nghymru a Lloegr.

§  Asesu effaith ariannol ar refeniw Cyfraddau Treth Incwm Cymru gyda lefelau amrywiol o amrywiad cyfradd treth.

Mae rhagor o fanylion am yr ymchwiliad ar gael ar wefan y Cynulliad:

http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgConsultationDisplay.aspx?id=372&RPID=1517970744&cp=yes

Gwahoddiad i gyfrannu i'r ymchwiliad

Mae'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan y rhai sydd â diddordeb yn y pwnc hwn.

Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg. Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i'r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn gynnar yn 2020.

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, dylech anfon copi electronig ohoni at SeneddCyllid@Cynulliad.Cymru

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

Clerc y Pwyllgor

Y Pwyllgor Cyllid

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd, CF99 1NA

 

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 15 Ionawr 2020. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion sy'n dod i law ar ôl y dyddiad hwn. Mae canllawiau ar gael i'r rhai sy’n rhoi tystiolaeth i bwyllgorau.

Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr hwn at unrhyw unigolyn neu sefydliad a hoffai gyfrannu at yr ymchwiliad. Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan y Cynulliad ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.

Datgelu gwybodaeth

Mae polisi’r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth ar gael. Dylech sicrhau eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.  Neu, gellir gwneud cais am gopi caled o'r polisi hwn drwy gysylltu â'r Clerc (Bethan Davies seneddcyllid@cynulliad.cymru).

 

Yn gywir

Llyr Gruffydd AC

Cadeirydd